Author name: will

Uncategorised

Pam Mae Angen Cynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol – Tachwedd 2024

Eich enw a’ch rôl: Athro Addysg Cysylltiol yn Abertawe. Amdanoch eich hun: Mae Helen yw Cadeirydd y Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol ac mae’n angerddol am helpu cydweithwyr i lunio rhaglenni cŵn ysgol hapus ac iach.. Crynodeb o’r erthygl: Yn y blog hwn mae Helen yn myfyrio ar y rhesymau pam y datblygwyd yr NSDA a pham mae hi’n meddwl ei bod mor bwysig. Pam Mae Angen Cynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol Arnom? Os ydych chi erioed wedi gweld y cyffro yn llygaid plentyn wrth weld ci yn cerdded i mewn i’w ystafell ddosbarth, byddwch chi’n gwybod pa mor bwerus gall yr eiliad honno fod. Mae ysgolion ledled y byd yn frwdfrydig am y syniad o gael cŵn ar y safle i helpu i wella lles, cyfranogiad, cymhelliant a sgiliau cymdeithasol y myfyrwyr. Mae ymchwil wedi dangos bod cŵn mewn ysgolion yn gallu helpu i leihau pryder plant, helpu i reoleiddio emosiynau a hyd yn oed annog datblygiad empathi. Mewn oes pan fo iechyd meddwl yn cael ei flaenoriaethau, am resymau da, mae’r rhain yn fuddion enfawr. Dychmygwch blentyn sy’n cael trafferth rhyngweithio’n gymdeithasol, yn eistedd yn dawel wrth ymyl ci llonydd, yn ei anwesu ac yn profi ymdeimlad o heddwch nad yw braidd byth yn ei gael mewn ystafell ddosbarth brysur. Mae’n rhywbeth hyfryd, os ydyn ni’n paru’r plentyn iawn â’r ci iawn, yn y cyd-destun iawn. Cynllunio ymlaen llaw Ond rhaid bod yn ofalus: heb arweiniad a strwythur priodol, ni fydd pob plentyn na chi’n elwa’n gyfartal. A bod yn onest, gall pethau fynd o’u lle’n ddifrifol. Mae angen cynllunio a rheoli gofalus ar gyfer realiti dod ag anifail byw i gyd-destun ysgol sydd eisoes yn brysur. Canlyniadau annisgwyl Gwnaeth astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gyda thros 1,000 o athrawon ledled y byd ddatgelu canfyddiadau annisgwyl ac, a bod yn onest, rai a gododd bryder. Er bod y rhan fwyaf o athrawon yn frwdfrydig am fuddion posib cael cŵn yn eu hystafelloedd dosbarth, maen nhw hefyd yn wynebu heriau annisgwyl. Mae sefyllfaoedd heriol yn codi, ac mae llawer o athrawon yn dweud nad ydynt wedi’u paratoi i fynd i’r afael â nhw. Nid yw hyn yn syndod – mae athrawon yn ddawnus, yn ddiwyd ac yn greadigol, ond nid yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi’u hyfforddi i drin cŵn. Soniodd rhai athrawon am deimlo’n hollol ar goll o ran gweithio gyda chi ochr yn ochr â’u dysgwyr. Beth os oes ofn cŵn ar blentyn? Beth os bydd ci’n teimlo’n bryderus ac yn ymateb mewn ffordd a allai fod yn anniogel? Dyma broblemau go iawn y mae angen eu datrys. Yn ein prosiect ymchwil, pan wnaethon ni ddadansoddi deunydd fideo o ryngweithiadau rhwng plant a chŵn, roedd y rhan fwyaf yn llawen, ond gwelon ni adegau hefyd pan oedd y cŵn yn amlwg yn teimlo’n bryderus. Ac mae’n dod yn fwy cymhleth. Mae llawer o ysgolion yn mabwysiadu cŵn heb unrhyw arweiniad neu brofiad ffurfiol. Mae’r arferion yn amrywio’n eang. Mae rhai cŵn yn perthyn i aelod o’r staff ac yn dod i’r ysgol bob dydd, ac mae eraill yn ymweld yn achlysurol drwy sefydliadau eraill. Y broblem i ysgolion sy’n gweithredu’n annibynnol yw nad oes ymagwedd gyson ac nid oes canllawiau sydd ar gael yn hwylus i sicrhau bod y rhyngweithiadau hyn yn rhai cadarnhaol a chynhyrchiol i bawb. Sut gall yr NSDA wneud gwahaniaeth? Felly, beth yw’r camau nesaf? Dyma ble gall y Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol helpu. Ein gobaith yw y bydd yr NSDA yn gweddnewid y sefyllfa drwy ddod ag academyddion, addysgwyr, gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, arbenigwyr ymddygiad cŵn a llunwyr polisi ynghyd i greu cymuned gydlynol i hyrwyddo trafodaeth am egwyddorion effeithiol ar gyfer integreiddio cŵn mewn ysgolion. Dychmygwch fyd lle mae pob athro sydd am gyflwyno ci i ystafell ddosbarth yn gallu cyrchu astudiaethau achos, adnoddau ac enghreifftiau o arfer gorau. Lle mae gan bob ysgol ganllawiau clir ar sut i reoli lles y ci ynghyd â lles y plant. A lle mae corff yn lobïo i gael safonau cenedlaethol ar gyfer gwerthuso effaith ci yn yr ystafell ddosbarth. Dyma’r dyfodol mae’n rhaid i ni weithio tuag ato. Bydd yr NSDA hefyd yn darparu cymorth mawr ei angen i athrawon sy’n frwdfrydig ond yn ansicr sut i fwrw ymlaen. Byddai’n rhwydwaith lle gall addysgwyr ddod o hyd i hyfforddiant a chyngor a hyd yn oed rhannu eu profiadau. Ac mae’n ehangach na’r Deyrnas Unedig yn unig – mae potensial i gydweithredu’n rhyngwladol, rhannu gwybodaeth rhwng gwledydd fel yr Almaen, yr Iseldiroedd a’r tu hwnt. Byddai hyn yn hwyluso cyfnewid cyfoethog o syniadau ac arferion gorau, gan sicrhau, ni waeth ble rydych chi, fod cŵn yn cael eu hintegreiddio mewn ysgolion â gofal, cywirdeb a sylw i fanylion. Y rhan fwyaf cyffrous? Fydd yr NSDA ddim yn canolbwyntio ar ganllawiau a pholisïau yn unig – byddai’n creu cymuned go iawn. Byddai gan athrawon, hyfforddwyr cŵn, ymchwilwyr a myfyrwyr oll rôl i’w chwarae wrth lywio dyfodol cŵn ysgol. Byddai ein gwefan yn gyfrwng allweddol ar gyfer rhannu adnoddau, ond yn bwysicach fyth, ar gyfer meithrin sgyrsiau. Dychmygwch allu gwrando ar bodlediad lle mae arbenigwyr rhyngwladol yn trafod materion allweddol sy’n ymwneud â chŵn, neu gymryd rhan mewn cynhadledd ar-lein lle gall athrawon gwrdd ag arbenigwyr, llunwyr polisi a hyd yn oed ymchwilwyr o bob cwr o’r byd sy’n ymwneud â chŵn. Neu gael cyfle i waith eich ci ysgol gael ei gydnabod drwy gystadleuaeth Ci Ysgol y Flwyddyn y DU. Byddai’r trafodaethau’n gyfoethog a byddai’r potensial am newid yn anferth. Felly oes, mae gan gŵn ysgol botensial i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant – ond dim ond os yw’n cael ei wneud yn iawn. Ein gobaith ni yw y bydd y Gynghrair Cŵn Ysgol Genedlaethol yn ein helpu i wneud hynny. Gadewch i ni adeiladu hyn gyda’n gilydd a sicrhau bod pob plentyn sy’n cwrdd â chi yn ei ysgol yn cael profiad diogel, cadarnhaol a thrawsnewidiol. Mae’n bryd troi’r syniad gwych hwn yn rhywbeth sy’n gweithio i bawb, gan gynnwys y cŵn. References or further reading

Blogs

Why We Need a National School Dog Alliance – November 2024

Your name and role: Associate Professor of Education at Swansea University. About yourself: Helen is Chair of the National School Dog Alliance, and is passionate in helping colleagues establish happy, healthy school dog programmes. Article summary: In this blog, Helen reflects on why the NSDA was developed, and why she thinks it is so important. Why We Need a National School Dog Alliance (NSDA) If you’ve ever seen the excitement in a child’s eyes when a dog walks into their classroom, you’ll know just how powerful that moment can be. Schools all over the world are embracing the idea of having dogs on-site to help boost student wellbeing, engagement, motivation, and social skills. Research has shown that dogs in schools can help reduce anxiety in children, promote emotional regulation, and even encourage the development of empathy. In an age where mental health is rightfully being prioritised, these are huge gains. Just imagine a child who struggles with social interaction, quietly sitting next to a calm dog, petting it and feeling a sense of peace they rarely get in a busy classroom. It’s a beautiful thing, if we get the right child, with the right dog in the right context.  ‘Pawsing for thought’ But here’s the catch: without proper guidance and structure, not all children, or dogs are going to benefit equally. In fact, it could go terribly wrong. The realities of bringing a sentient animal into an already busy school context needs careful preparation, planning and managing. ‘Tails of the Unexpected’ A recent study we conducted involving over 1,000 teachers across the globe revealed some surprising, and frankly, concerning findings. While most teachers are excited about the potential benefits of having dogs in their classrooms, they’re also facing unexpected challenges. Problematic incidents happen, and many teachers say that they just aren’t prepared to handle them. This is not surprising – teachers are talented, hardworking and creative, but most are not trained dog handlers. Some teachers reported feeling completely out of their depth when it came to working with a dog alongside their learners. What if a child is terrified of dogs? What if the dog becomes anxious and reacts in a way that could be unsafe? These are real issues that need addressing. In our research project, when we analysed video material of interactions between children and dogs, whilst most were joyful, we also saw times when dogs were clearly feeling stressed. And it gets more complicated. Many schools are adopting dogs without any formal guidance or experience. The practices vary widely. Some dogs belong to a staff member and come to school every day, while others visit periodically through established organisations. The problem is, for schools going it alone, there’s no consistent approach, and no freely available ‘go-to’ set of guidelines to ensure that these interactions are positive and productive for everyone involved. How can the NSDA make a difference? So, where do we go from here? This is where the National School Dog Alliance can step in. We hope that the NSDA can become a game-changer by bringing together academics, educators, allied professionals, canine behavioural experts, and policymakers to create a cohesive community to promote discussion around effective principles to integrate dogs into schools. Imagine a world where every teacher who wants to introduce a dog into their classroom has access to case studies, resources and best practice exemplars. Where every school has clear guidelines on how to manage the dog’s welfare, alongside the wellbeing of the children. And where there is a body lobbying towards national standards for evaluating the impact of having a dog in the classroom. That’s the future we need to aim for. The NSDA will also provide much-needed support for teachers who are eager but unsure how to proceed. It would serve as a network where educators can access training, get advice, and even share their experiences. And it wouldn’t just stop at the UK—there’s potential for international collaboration, sharing knowledge between countries like Germany, the Netherlands, and beyond. This would allow for a rich exchange of ideas and best practices, ensuring that no matter where you are, the integration of dogs in schools is done with care, precision, and attention to detail. The most exciting part? The NSDA won’t just be about guidelines and policies—it would be about creating a true community. Teachers, dog trainers, researchers, and students would all have a role to play in shaping the future of school dogs. Our website would be the key vehicle for sharing resources, but more importantly, for fostering conversations. Imagine being able to tune in to a podcast where international experts discuss key issues relating to all things canine or attend an online conference where teachers can meet with canine experts, policymakers, and even researchers from universities across the globe. Or having the opportunity to recognise the work of your school’s dog through the UK School Dog of the Year competition. The discussions would be rich, and the potential for change immense. So yes, school dogs have the potential to make a massive difference in the lives of children—but only if we get it right. We hope that the National School Dog Alliance will be a vehicle to help us do just that. Let’s build this together and ensure that every child who encounters a dog in their school has a safe, positive, and transformative experience. It’s time to turn this wonderful idea into something that works for everyone, including the dogs. References or further reading Lewis, Helen, Godfrey, Janet Oostendorp, Knight, Cathryn (2023) Tales of the unexpected: Teacher’s experiences of working with children and dogs in schools, Human-Animal Interactions. www.cabidigitallibrary.org

Scroll to Top